Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
CELG(4)-08-14 Papur 5b
Y Pwyllgor Menter a Busnes
Enterprise and Business Committee
|
|
|
|
Christine Chapman AC Cadeirydd Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
|
|
|
3 Mawrth 2014 |
|
Annwyl Christine
Craffu ar faterion yn ymwneud â'r Gymraeg
Diolch am eich llythyr at Nick Ramsay dyddiedig 28 Ionawr 2014 yn gwahodd y Pwyllgor i drafod ein dull gweithredu o ran craffu ar faterion yn ymwneud â'r Gymraeg fel y mae'n berthnasol i'n cylch gwaith, a sut i wneud y Gymraeg yn rhan o brif ffrwd ein gwaith craffu.
Rydym yn croesawu eich blaengaredd yn hyn o beth ac rydym yn falch eich bod wedi codi'r mater gan nad yw'r Gymraeg wedi bod yn rhan amlwg o'n gwaith hyd yma.
Rydym yn cytuno ei bod yn bwysig prif-ffrydio'r iaith a bod angen i ddatblygu economaidd a'r Gymraeg symud ymlaen law yn llaw. Mae hynny'n wir, yn arbennig, yn y cadarnleoedd Cymraeg lle y mae trafnidiaeth a chyfleoedd economaidd yn brin ar hyn o bryd.
Rydym yn ymwybodol o rai mentrau yn y maes hwn, fel Ardaloedd Twf Lleol Dyffryn Teifi, Menter a Busnes ac adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar y Gymraeg a Datblygu Economaidd. Byddwn yn anelu at drafod y mentrau hynny dros y misoedd nesaf, a hefyd i gynnwys materion sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn ein cwestiynau rheolaidd i'r Gweinidogion a thystion eraill yn ystod ein hymchwiliadau yn y dyfodol.
Diolch eto am ofyn ein barn ar y mater hwn.
Yn gywir

William Graham AC
Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes